Our background is in the natural sciences and we try to incorporate that knowledge into all that we create. We reclaim wood that would otherwise be sent to landfill or burned and turn it into high quality unique pieces of art. This not only helps to protect our precious environment but also helps us to make products that stand out from the crowd. Every piece of wood we use has its own story, wheth
er it’s a candle holder made from a wind-fall tree branch in Snowdonia, a cheeseboard made of parts rescued from an old yacht that has sailed the Menai Strait and beyond or a planter made from a recycled pallet destined for the scrap heap. This gives all our products their own unique history and style. Stiwdios Brigyn a Brwsh
Blychau plannu a dodrefn wedi’u creu o bren wedi’i adfer, potiau planhigion terracotta wedi'u uwchgylchu, paentiadau bywyd gwyllt ac addurniadau clai awyr-sych gydag argraffnod botanegol, wedi'u gwneud â llaw ar Ynys Môn gan Anna a Rob. Cysylltwch â ni am archebion personol pwrpasol. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni ym Marchnad Artisan Biwmares. Rydym yn bâr o artistiaid sy'n byw ar Ynys Môn yng Ngogledd Cymru. Mae gennym gefndir yn y gwyddorau naturiol ac rydym ni’n ceisio ymgorffori'r wybodaeth honno ym mhob peth yr ydym yn ei greu. Rydym yn ail-ddefnyddio pren a fyddai fel arall yn cael ei anfon i safleoedd tirlenwi neu’n cael ei losgi, a'i droi'n ddarnau celf unigryw o ansawdd uchel. Mae hyn nid yn unig yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd gwerthfawr ond mae hefyd yn ein helpu i greu cynhyrchion unigryw. Mae gan bob darn o bren a ddefnyddiwn ei stori ei hun, boed yn ddaliwr cannwyll wedi’i greu o gangen coeden a gafodd ei chwythu i lawr gan y gwynt yn Eryri, bwrdd caws wedi'i wneud o rannau a achubwyd o hen gwch hwylio a fu’n hwylio’r Afon Menai a thu hwnt, neu flwch plannu allan o baled wedi'i ailgylchu a oedd ar fin mynd i’r domen sgrap. Mae hyn yn rhoi eu hanes a'u harddull unigryw eu hunain i'n holl gynhyrchion.