26/05/2026
❤️Dwi’n falch i dutha chi fydd yr siop yn ail agor fory Dydd mercher 27ain❤️
Mae hi wedi bod yn amser anodd iawn i mi drost yr wythnosau dwythaf ‘ma, bron i mi golli rhywyn arall dwi’n caru ond diolch byth mae o yn gwella!
Diolch mawr i chi gyd am yr holl negesuon o chariad ac pob hwyl - meddwl y byd! ac hoffwn ddiolch i pawb ddaru fyn helpu i trwy yr cyfnod anodd yma.
Am fod yr siop wedi bod ar gau am sawl wythnos, mae hyn yn meddwl dwi’n dechrau o’r cychwyn eto felly fyswn i yn gwerthfawrogi eich ordors🤣 bach neu mawr!
Os ydachi wedi gyru negas i mi ac angen ateb, plis gyrwch negas arall just i rhoid ‘nudge’ bach i mi.
Diolch i chi gyd a dwi’n edrych ymlaen i weod chi gyd eto! 🙂
Ryan x